SAW_logo

home           Cymraeg
           
Amdanom ni
Prentisiaethau
Swyddi Gwag
Lleoliad
Cyflogwyr
Y Gymraeg yn ACO

Y Gymraeg yn ACO

Mae'r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio'r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Rydym yn ddiolchgar i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a'r gefnogaeth. Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma:
Home | Coleg Cymraeg Cenedlaethol


Darpariaeth Gymraeg yn ACO


Mae gan ACO hyfforddwr/asesydd sy'n siarad Cymraeg a gall gynnig y cymwysterau canlynol drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu'n ddwyieithog:
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol
  • Diploma Lefel 2 a Diploma 3 mewn Gweinyddu Busnes
  • Tystysgrif Lefel 2 a Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid

Cymorth i brentisiaid/dysgwyr yn y Gymraeg


Gall pob dysgwr:
  • Cwblhau cymhwyster Iaith Gymraeg ar wahanol lefelau.
  • Gallu ymgymryd ag agweddau ar eu hasesiad cychwynnol yn Gymraeg
  • Cael mynediad at brif ddogfennaeth yn ddwyieithog e.e. Llawlyfr Dysgwyr ACO
  • Cael mynediad at ganllawiau geirfa alwedigaethol penodol yn y Gymraeg
ASwyddog Iaith Gymraeg ACO
Gillian Gerrard
Cynrychiolydd Arweiniol Dwyieithog SAW
Christine Webb
Cydlynydd Datblygu Dwyieithog SAW
Angharad Morgan
Mae ACO yn hyrwyddo ac yn cynnig cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg/dwyieithog i bob dysgwr ac yn codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg gyda dysgwyr a chyflogwyr. Mae ACO yn helpu i hwyluso uwchsgilio staff a dysgwyr i deimlo'n hyderus gan ddefnyddio, a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

Calendr Cymraeg


  • 25 Ionawr – Cystadleuaeth Dydd Santes Dwynwen
  • 1 Mawrth – Cwis Dydd Gŵyl Dewi
  • 16 Medi – Cwis Diwrnod Owain Glyndwr
  • Tachwedd - Gwobrau SAW – Cyhoeddi dyfarniadau dysgwyr ac ymarferwyr CCC.

Manteision cwblhau eich prentisiaeth yn y Gymraeg


Mae llawer o fanteision o gwblhau eich prentisiaeth neu gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, gan gynnwys:
  • Cewch mwy o gyfleoedd cyflogaeth gyda chyflogwyr sy'n siarad Cymraeg
  • Byddwch yn gwella eich sgiliau Cymraeg i'w defnyddio ym myd gwaith a tra’n sgwrsio â chydweithwyr a chwsmeriaid o Gymru.
  • Bydd mwy o gyfleoedd i chi wneud ffrindiau a chymdeithasu drwy ddefnyddio'r Gymraeg
  • Wrth ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, gallwch fod yn rhan o ddau ddiwylliant
  • Drwy ddefnyddio a chymhwyso defnyddio'r Gymraeg, bydd mwy o swyddi ar gael i chi

 



Mae'r Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.